The Sarn farmers

Rydym wedi adeiladu tair fferm newydd yn Sarn ym Mhowys

Rydym yn ymateb i alw newydd am fwyd ffres mewn cymunedau lleol, yn ysgolion Powys ac mewn dinasoedd cyfagos.

Fe wnaethon ni defnyddio 36 erw o dir fferm Cyngor Sir Powys i greu tri chyfle newydd i newydd-ddyfodiaid.

Mae'r ffermwyr cyntaf wedi symud i mewn ac wedi sefydlu ar Facebook.

Ymhlith ein partneriaid ar gyfer y prosiect arloesol hwn mae Cyngor Sir Powys (sy’n darparu’r tir), Ffermydd a Gerddi CymdeithasolShared AssetsLandworkers’ AllianceCultivateNature Friendly Farming NetworkLantraColeg y Mynydd DuEcological Land CooperativeEco Dyfi a Chonsortiwm Gwlad.

Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac ACPW3 Llywodraeth Cymru.

Cyflwyno Tilly.

Fferm Sarn: disgrifiad

Sarn layout

Mae'r 36 erw yn cael ei rannu'n dair fferm, gyda chartrefi a chyfleusterau’r gweithle gyda’i gilydd ar dir cyffredin.

Comisiynwyd adroddiad i ddisgrifio’r safle: gwastad, ffynonellau dŵr ar y safle, amodau hinsawdd da ar gyfer garddwriaeth, mae’r pridd yn amrywio o silt i glai, gyda llawer o botensial i gyfoethogi bioamrywiaeth.

Y cynllun
Sarn homes

Mae gan bob fferm gartref bach, wedi’i insiwleiddio’n dda, gyda chysylltiadau dŵr, trydan a draenio.

Yn unol â’r rheoliadau cynllunio, rhaid i’r rhain barhau’n "symudadwy" ar gyfer y 5 mlynedd gyntaf. Wedi hynny, ac mor bell â bod y busnes yn hyfyw, bydd caniatâd ar gyfer cartref parhaol yn cael ei roi'n awtomatig.

Shared barn at Sarn

Cyfleusterau gwaith cyffredin.

Mae'r cyfleusterau’n cynnwys siedau golchi a phacio, ynghyd â mynediad dros ffordd gyffredin a llawr caled ar gyfer cerbydau.

Assistance

Ar gael i’w rhentu, wedyn prydles 90+ mlynedd

Rydym prydlesu'r tir gan Gyngor Sir Powys am 95 mlynedd. Am y 5 mlynedd gyntaf, pan geir cyfle i brofi’r model busnes, bydd y ffermydd yn cael eu rhentu. Wedi hynny, rydym ystyried cynnig opsiwn o brydles 90+ mlynedd i denantiaid, er mwyn rhoi diogelwch hirdymor iddynt ddatblygu eu busnesau a’u bywoliaethau. (Llun gan jcomp ar Freepik)

Lluniau o Ffermydd Sarn

Cyflwyno Lydia.

Lluniau o’r awyr: Huw Richards

Nid yw feithrin ffermydd yn unig yn ddigon - mae'n rhaid i ni drwsio llawer o bethau fel y gall y ffermydd hyn ffynnu.

Mae angen rheoliadau cynllunio newydd, llwybrau newydd i farchnadoedd sy’n tyfu, gwell cefnogaeth gan y Llywodraeth, ehangu sgiliau….

Powys CC logo

Fe wnaethon ni weithio gyda’r Cyngor am ddwy flynedd er mwyn datblygu canllawiau cynllunio newydd ar gyfer “Anheddau Mentrau Gwledig". Mae'r canllawiau newydd hyn yn helpu ffermwyr llysiau graddfa fach lle mae angen cartref ar y tir lle maent yn gweithio.

Darllen y canllawiau cynllunio
Birmingham wholesale market

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i feithrin llwybrau newydd i farchnadoedd cynyddol ar gyfer bwyd sy'n cael ei dyfu ym Mhowys:
> "dolenni bwyd" sy'n cysylltu ffermydd lleol â'i gilydd ac â mannau gwerthu lluosog ar draws rhanbarth ehangach
> trefniadau caffael cyhoeddus gan Gyngor Sir Powys ar gyfer ysgolion
> dolen fasnach newydd gyda Birmingham, lle mae galw mawr am fwyd syn cael ei dyfu yn ei gefnwlad wledig.

Black Mountains College

Rydym yn gweithio i ddatblygu lleoliadau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar gyfer myfyrwyr Coleg y Mynydd Du.

Gwefan y Coleg
Bannau Acres

Rydym yn creu rhwydwaith cymheiriaid o ffermwyr graddfa fach ar draws Powys, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy.

BannauAcres.co.uk
Food Shocks event, Senedd, 16 April 2024: Huw Irranca-Davies

Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn lobïo ar gyfer gwell cymorth busnes i ffermydd bach a garddwriaeth, gan weithio gyda Grŵp Cynghrair Garddwriaeth Cymru. Rydym hefyd yn argymell newidiadau mewn rheolau cynllunio, fel y gall mwy o ffermydd newydd ddechrau.

Grŵp Cynghrair Garddwriaeth Cymru

Recriwtio ar gyfer Ffermydd Sarn

Rydym wedi recriwtio tyfwyr profiadol a all sefydlu eu mentrau newydd a ffynnu’n gyflym.

Roedd gan yr ymgeiswyr:

  • Profiad o weithio ar fferm ffrwythau a llysiau sy’n gwerthu ei chynnyrch.
  • Mynediad at ddigon o gyllid sefydlu ar gyfer eu menter newydd arfaethedig.
  • Dealltwriaeth gadarn o dyfu amaeth-ecolegol.
  • Cymhelliant i fod yn rhan o fudiad i fwydo’r gymuned, a’r hyblygrwydd i roi cynnig ar ddulliau newydd.
  • Parodrwydd i gydweithio gyda ffermwyr eraill mewn lleoliadau cyffredin.
  • Sensitif i bryderon cymdogion, a’r bwriad i integreiddio i’r gymuned leol.
  • Ymwybyddiaeth o farchnadoedd potensial.
  • Parodrwydd/gallu i gyfrannu at adeiladu seilwaith y fferm o safbwynt ymarferol.

Rydym yn awyddus i gael mentrau ffermio newydd sy’n:

small-scale farming

Fach eu maint, hynod gynhyrchiol a hyfyw o safbwynt masnachol.

local veg

Helpu sicrhau diogelwch bwyd i Gymru.

bare land

Rhoi cyfle i bobl dlawd o ran asedau, yn enwedig ein pobl ifanc, gael mynediad at dir a chychwyn menter ffermio ffrwythau a llysiau ar raddfa fach.

vegetable market

Hyrwyddo cymuned trwy fasnachu’n lleol a pherchnogaeth gymunedol gyffredin o’n tirwedd – “economi sylfaenol”.

agroecological growing

Defnyddio dulliau amaethecolegol sy’n: osgoi llygredd; yn atafaelu carbon yn y pridd ac yn cyfoethogi iechyd y pridd a bioamrywiaeth; cynhyrchu llawer o fwyd mewn ardal fach, er mwyn gadael rhagor o dir er mwyn adfer natur.

local supply chains

Creu cadwyni cyflenwi byr, sy’n eiddo i bobl leol, sy’n cadw llif arian ac elw’n lleol ar raddfa sy’n creu cyfleoedd newydd ar gyfer pob ffermwr lleol.

Lleihau effaith yr hyn y byddwn yn ei fwyta a’i yfed o ran allyriadau carbon a datgoedwigo ledled y byd.

Sicrhau bod ffrwythau a llysiau ffres, llawn maeth a dyfir yn lleol ar gael i bawb yn ein rhanbarth, gan gynnwys dinasoedd cyfagos.

training

Darparu cyfleoedd addysgol ac ym maes hyfforddiant i gymunedau a helpu meithrin cysylltiadau newydd gydag a dealltwriaeth o’n tir.

Dathlu rhywogaethau treftadaeth lleol a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gweld ein rhywogaethau treftadaeth lleol