Ymhlith ein partneriaid ar gyfer y prosiect arloesol hwn mae Cyngor Sir Powys (sy’n darparu’r tir), Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Shared Assets, Landworkers’ Alliance, Cultivate, Nature Friendly Farming Network, Lantra, Coleg y Mynydd Du, Ecological Land Cooperative, Eco Dyfi a Chonsortiwm Gwlad.
Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac ACPW3 Llywodraeth Cymru.
Lluniau o Ffermydd Sarn









Lluniau o’r awyr: Huw Richards
Recriwtio ar gyfer Ffermydd Sarn
Rydym wedi recriwtio tyfwyr profiadol a all sefydlu eu mentrau newydd a ffynnu’n gyflym.
Roedd gan yr ymgeiswyr:
- Profiad o weithio ar fferm ffrwythau a llysiau sy’n gwerthu ei chynnyrch.
- Mynediad at ddigon o gyllid sefydlu ar gyfer eu menter newydd arfaethedig.
- Dealltwriaeth gadarn o dyfu amaeth-ecolegol.
- Cymhelliant i fod yn rhan o fudiad i fwydo’r gymuned, a’r hyblygrwydd i roi cynnig ar ddulliau newydd.
- Parodrwydd i gydweithio gyda ffermwyr eraill mewn lleoliadau cyffredin.
- Sensitif i bryderon cymdogion, a’r bwriad i integreiddio i’r gymuned leol.
- Ymwybyddiaeth o farchnadoedd potensial.
- Parodrwydd/gallu i gyfrannu at adeiladu seilwaith y fferm o safbwynt ymarferol.