I: Cyngor Sir Powys, Awdurdod y Parciau Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru
Rydym yn fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Coleg y Mynydd Du, yn astudio ffermio amaeth-ecolegol. Rydym yn datblygu’r sgiliau i ymarfer y math hwn o ffermio, ond rydym yn cael ein rhwystro rhag ei ymarfer. Gofynnwn i chi newid hyn.
Mae’r math o ffermio yr ydym yn paratoi ar ei gyfer yn hollbwysig ar gyfer y dyfodol. Mae’n galluogi ein rhanbarthau a’n dinasoedd i amrywio eu cyflenwadau bwyd, sy’n hanfodol ar gyfer diogeledd bwyd. Mae ein dulliau’n lleihau allyriadau carbon yn benodol, yn adfer byd natur ac nid ydynt yn llygru ein hafonydd. Rydym yn adeiladu bïom y pridd ac yn cynhyrchu bwyd sy’n uchel mewn maeth a safon ac yn dda i iechyd. Rydym yn helpu i adfywio cymunedau gwledig. Mae ffermydd bach sy’n gweithio gyda’i gilydd yn cefnogi lles cymdeithasol ac iechyd meddwl ffermwyr. Mae ein dulliau wedi cael eu profi ledled y byd i fod yn hynod gynhyrchiol ac yn economaidd hyfyw, er eu bod yn waith caled iawn, fel pob math o ffermio.
Ar un adeg, prif gynheiliaid ffermio yn yr ardal hon oedd garddwriaeth a ffermio cymysg. Mae cymhellion economaidd a weithredwyd drwy bolisïau amaethyddol wedi ei ddileu bron yn llwyr.
Ni allwn ymarfer ffermio amaeth-ecolegol, fodd bynnag. Mae pris tir yn afresymol – caiff ei werthuso fel ased ariannol, nid fel ased ar gyfer tyfu bwyd. Hefyd, mae’r math hwn o ffermio angen cartrefi i bobl sy’n byw ac yn gweithio ar y tir, ond bu degawdau o ddi-boblogi gwledig a system gynllunio sy’n dal i atgyfnerthu’r broses o wacáu pobl o ardaloedd ffermio.
Rydym yn croesawu’n gynnes y gwaith sydd eisoes ar y gweill ym Mhowys a Bannau Brycheiniog i newid polisi cynllunio ac adeiladu tair fferm fechan yn Sarn. O fewn misoedd, roedd y ffermwyr newydd yn gwerthu cynnyrch ac yn cynnal digwyddiadau cymunedol. Rydym hefyd yn croesawu’r cymorth technegol ac ariannol y mae’r ffermydd hyn wedi’i dderbyn gan wasanaethau Llywodraeth Cymru.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru a’r holl awdurdodau lleol gwledig yng Nghymru i ddatblygu polisïau a chynlluniau sy’n agor llawer mwy o filoedd o erwau ar gyfer ffermydd bach fforddiadwy gyda chartrefi. Wrth wneud hynny, gallwn feithrin diogeledd bwyd, adfywio’r economi wledig ac ymateb i orgynhesu’r hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd afonydd.
Chantal Bland
Phillipa Lobban
Angus Paget
Francesca Vuolo
Sam Webber
– a’r garfan lefel tri amaeth-ecoleg gyfan
Diweddariadau
Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf ac unrhyw ddiweddariadau eraill
Gwelwch y cwbl
Digwyddiad Sioc Bwyd, Pierhead, Senedd, Caerdydd, 16 Ebrill 2024
Diogelwch bwyd: beth fedrwn ei wneud i ddiogelu ein cyflenwad bwyd?
Cynllun peilot tair ffarm fach ger Sarn ym Mhowys
Mesur yr awydd ar gyfer ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol
Ffermydd sirol: amser i ailfeddwl?